Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw Deintyddiaeth Gofal Arbennig?

Deintyddiaeth Gofal Arbennig yw'r gangen honno o Ddeintyddiaeth, sy'n darparu gwasanaethau gofal geneuol (ataliol a thriniaethol) ar gyfer pobl sy'n analluog i dderbyn gofal deintyddol arferol oherwydd  amhariad corfforol, deallusol, meddygol, emosiynol, synhwyraidd, meddyliol neu gymdeithasol, neu gyfuniad o'r elfennau hyn.

Mae Deintyddiaeth Gofal Arbennig yn ymwneud â gwella iechyd geneuol unigolion a grwpiau yn y gymdeithas sy'n cyfateb i’r categorïau hyn. Mae'n gofyn am ddull cyfannol dan arweiniad arbenigol er mwyn cwrdd â gofynion cymhleth pobl ag amhariadau. 

Beth mae Deintyddion Gofal Arbennig yn ei wneud?

Mae Deintyddion Gofal Arbennig yn darparu gofal geneuol ar gyfer oedolion ag ystod o amhariadau ac anableddau. Maent yn arwain timau arbenigol i ddarparu arbenigedd a gwasanaethau er mwyn hyrwyddo gwelliant iechyd geneuol unigolion a grwpiau sy'n cyfateb i’r categorïau hyn ac sy'n ei chael hi'n anodd cyrchu gwasanaethau gofal geneuol arferol. Mae gweithgareddau'n amrywio o ddarparu gofal i unigolion â chyflyrau meddygol difrifol, i weithio gyda gofalwyr i wella iechyd geneuol y sawl sydd ag anableddau dysgu a chorfforol dwys. Mae Deintyddion Gofal Arbennig hefyd yn darparu cyngor, dysgeidiaeth ac hyfforddiant ar gyfer deintyddion eraill a gweithwyr proffesiynol gofal deintyddol.

Pa sgiliau y dylwn i eu meddu cyn ymgeisio am Raglen Hyfforddiant Arbenigol mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig?

Byddai mynediad i hyfforddiant mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig fel arfer yn gofyn am gyfnod Blwyddyn Graidd Ddeintyddol 2 (DCT2) neu gyfwerth.  Yn ogystal, fel rheol mae angen meddu ar ddiploma perthnasol gan un o'r Colegau Brenhinol, neu gymhwyster cyfwerth cymeradwy. 

Beth sy'n rhan o'r rhaglen Ddeintyddiaeth Gofal Arbennig?

Mae'r rhaglen hyfforddiant arbenigedd Deintyddiaeth Gofal Arbennig yn dilyn cyfnod hyfforddiant o dair blynedd sy'n adlewyrchu natur Deintyddiaeth Gofal Arbennig trwy gymryd lle mewn amrywiaeth o leoliadau gofal sylfaenol, ysbytyol a chymunedol. Ochr yn ochr ag hyfforddiant arbenigedd, anogir Hyfforddeion Arbenigol i gwblhau cymhwyster priodol yn y DU mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig fel:

  • Diploma mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig Coleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr 
  • Aelodaeth mewn Deintyddiaeth Gofal Arbennig Coleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin 
  • Gradd Meistr Gwyddoniaeth mewn Tawelyddu a Gofal Arbennig 

Traddodir rhan sylweddol o agweddau damcaniaethol y rhaglen hyfforddi trwy fynychiad cwrs yn y Brifysgol, naill ai trwy bresenoldeb uniongyrchol neu drwy gymryd rhan mewn cwrs dysgu o bell. 

Amcanion y rhaglen hyfforddi yw y: 

  • Dylai'r hyfforddai gaffael y wybodaeth, sgiliau, agweddau a'r farn briodol i ddiwallu anghenion iechyd geneuol unigolion a grwpiau yn y gymdeithas sydd ag amhariad neu anabledd corfforol, synhwyraidd, deallusol, meddyliol, meddygol, emosiynol neu gymdeithasol. Gwneir hyn trwy hyfforddiant strwythuredig i baratoi ar gyfer penodiad Arbenigol. 
  • Dylai ysgogi ymdeimlad o ddiddordeb ac ymholiad proffesiynol, gan annog y deintydd gofal arbennig i gynnal cymhwysedd ac hyfedredd trwy gydol ei yrfa drwy barhau ag addysg broffesiynol. 

Bydd cwblhad hyfforddiant ffurfiol yn cael ei ddilysu gan asesiad crynodol boddhaol a llwyddiant mewn Arholiad Cymrodoriaeth Ymadawiad Rhyng-golegol.

Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?

Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi a Chadeirydd y Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol
Vicki Jones - Ymgynghorydd mewn SCD

Gweinyddwr Hyfforddiant Arbenigol
Fran Yuen-Lee