Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw deintyddiaeth Bediatrig?

Dental manikin

Deintyddiaeth Bediatrig yw’r gangen o ddeintyddiaeth sy’n ymwneud â thriniaeth, addysg ac ymchwil gyda golwg ar ofal iechyd geneuol cynhwysfawr a therapiwtig ar gyfer plant o’u genedigaeth hyd at eu glasoed, gan gynnwys gofal ar gyfer plant sy’n dangos problemau deallusol, meddygol, corfforol, seicolegol a/neu emosiynol.

Beth mae Deintyddion Pediatrig yn ei wneud?

  • Darparu ystod lawn o ofal iechyd y geg i blant pryderus a phlant ag anghenion arbennig
  • Triniaeth arbenigol i blant sydd â phroblemau datblygu yng nghyswllt y geg a'r dannedd
  • Rheoli’r difrod a gafwyd i ddannedd a’r geg ar ôl anaf trawmatig
  • Cyfrannu at ofal amlddisgyblaethol ar gyfer plant sydd â phroblemau cymhleth, er enghraifft, gwefus a thaflod hollt, hypodontia, y rheini sydd â chyflyrau meddygol a allai effeithio ar iechyd y geg.

Pa sgiliau ddylwn i feddu arnynt cyn gwneud cais am raglen hyfforddi arbenigol ym maes deintyddiaeth bediatrig?

Yn gyntaf oll, mae angen i ddeintydd pediatrig fwynhau gweithio gyda phlant a gallu cyfathrebu’n effeithiol â hwy. Mae angen y canlynol ar ddeintydd pediatrig hefyd:

  • Sgiliau clinigol rhagorol sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  • Dealltwriaeth eang o ddeintyddiaeth yn ei chyfanrwydd, gyda pharodrwydd i ddatblygu eu gwybodaeth arbenigol
  • Sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol da gyda rhieni/gwarcheidwaid, aelodau eraill o’r tîm deintyddol yn ogystal â phlant a phobl ifanc
  • Bod yn aelod o dîm sy’n gallu dilyn canllawiau ac arwain y tîm deintyddol.
  • Diddordeb brwd mewn parhau â datblygiad ei yrfa bersonol.

Beth sy’n gysylltiedig â’r rhaglen hyfforddiant arbenigol ar gyfer deintyddiaeth bediatrig?

Mae deintyddiaeth bediatrig yn wahanol i unrhyw arbenigedd deintyddol arall gan ei bod yn ymdrin â phob agwedd ar ofal iechyd y geg i blant megis gofal adferol (gan gynnwys triniaeth endodontig a phrostheteg), mân lawdriniaethau ar y geg, ac orthodonteg ataliol. Mae deintyddion pediatrig hefyd yn gweithio’n agos gyda phediatregwyr, llawfeddygon ac anesthetyddion fel rhan o dîm sy’n gofalu’n gyffredinol am blant sydd â phroblemau meddygol cymhleth. Gallant hefyd weithio gydag asiantaethau eraill megis ymwelwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol i ofalu am blant bregus.

Gellir trin plant dan anesthetig lleol gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau rheoli ymddygiad. Weithiau, oherwydd problemau meddygol neu ymddygiadol, mae angen trin plant gan ddefnyddio tawelyddion neu anesthesia cyffredinol.

Er mwyn hyfforddi i fod yn ddeintydd pediatrig yn y Deyrnas Unedig, dylech wneud cais am swydd hyfforddi cofrestrydd arbenigol ar raglen hyfforddiant deintyddiaeth bediatrig gydnabyddedig:

  • Ar ôl y cymhwyster BDS/BChD, bydd angen i chi gael profiad eang ym maes deintyddiaeth gyffredinol, gan gynnwys meddygaeth mewn ysbyty, yn y gymuned ac mewn practis deintyddol cyffredinol. Byddai rhaglen dwy flynedd o hyfforddiant sylfaen neu raglen gyfatebol yn rhoi’r ystod o brofiad a angenrheidiol. At hynny, mae swydd ym maes deintyddiaeth enol-wynebol yn ddymunol dros ben, yn ogystal â rhywfaint o brofiad ychwanegol o drin plant.
  • Er bod Diplomâu Aelodaeth y Cyfadrannau Deintyddol ar y Cyd (RCS Lloegr), y Gyfadran Deintyddiaeth (RCS Caeredin/RCPS Glasgow) neu’r Gyfadran Deintyddiaeth (RCS Iwerddon) yn parhau i fod yn ddangosyddion defnyddiol ar gyfer cwblhau’r cyfnod hwn, nid yw’n hanfodol bod ymgeisydd yn meddu ar un o’r cymwysterau hyn.
  • Dylech ymgymryd â rhai prosiectau archwilio a cheisio cyhoeddi un neu ddwy o erthyglau. Bydd mynychu cyfarfodydd lleol Cymdeithas Deintyddiaeth Baediatrig Prydain yn eich galluogi i gwrdd â chydweithwyr sydd â diddordebau tebyg a dysgu mwy am amrywiaeth yr arbenigedd. Bydd y mathau hyn o weithgareddau yn helpu wrth wneud cais am swydd hyfforddi arbenigol.

Ar ôl i chi gael eich derbyn ar raglen hyfforddi, bydd angen i chi gwblhau eich rhaglen hyfforddi dan oruchwyliaeth yn llwyddiannus a phasio’r arholiad Aelodaeth mewn Deintyddiaeth Baediatrig. Disgwylir y bydd hyfforddai sy’n ymgymryd â hyfforddiant arbenigol amser llawn mewn deintyddiaeth bediatrig heb unrhyw hyfforddiant perthnasol o flaen llaw yn yr Arbenigedd yn cwblhau’r hyfforddiant mewn tair blynedd. Mae hyfforddiant arbenigol rhan-amser hefyd yn bosibl a byddai’n cael ei gwblhau mewn tua phum mlynedd fel arfer.

Mae rhaglenni hyfforddiant arbenigol deintyddiaeth bediatrig ar gael yn y Gwasanaeth Deintyddol Ysbytai gyda nifer o raglenni'n cael eu cysylltu â'r Gwasanaeth Deintyddol Cyflogedig.

Mae cyfle hefyd i ddilyn rhaglen Cymrodoriaeth Glinigol Academaidd sy’n darparu amgylchedd hyfforddiant clinigol ac academaidd sydd wedi’i gynllunio i ddarparu cymorth i unigolion sydd â photensial i ddatblygu fel ymchwilydd. Mae’r rhaglenni hyn hefyd yn benodiadau tair blynedd sy’n darparu hyfforddiant clinigol llawn mewn deintyddiaeth bediatrig a chwblhau MSc ymchwil, ac ar ddiwedd hynny disgwylir i’r hyfforddai sefyll yr arholiad Aelodaeth mewn Deintyddiaeth Bediatrig. Y llwybr gyrfa disgwyliedig wedyn fyddai PhD a hyfforddiant arbenigol pellach i gyflawni’r cymwyseddau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer penodi ar lefel ymgynghorydd.

Ar ôl cwblhau hyfforddiant arbenigol ym maes deintyddiaeth bediatrig, beth yw fy opsiynau gyrfa?

Gall arbenigwyr mewn deintyddiaeth bediatrig weithio mewn sawl maes yn cynnwys:

  • Practis annibynnol gan gynnwys practis y GIG neu bractis preifat
  • Ysgolion addysgu deintyddol mewn prifysgolion ac ysbytai a bod yn rhan o’r gwaith o addysgu myfyrwyr israddedig/ôl-raddedig a hyfforddeion arbenigol
  • Y gwasanaethau iechyd cyflogedig naill ai fel arbenigwr yn y gymuned neu fel rhan o dîm un ai mewn ysbyty cyffredinol dosbarth neu ysbyty plant
  • Cyfnod pellach o hyfforddiant dan oruchwyliaeth i fod yn gymwys i wneud cais am swydd Ymgynghorydd ym maes deintyddiaeth bediatrig, a chael eich penodi i'r swydd honno.

Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi

Catherine Williams – Ymgynghorydd Deintyddiaeth Bediatrig, Ysbyty Deintyddol Prifysgol, Caerdydd

Cadeirydd Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigedd

Shannu Bhatia – Ymgynghorydd Deintyddiaeth Baediatrig, Ysbyty Deintyddol Prifysgol, Caerdydd

Gweinyddwr Hyfforddiant Arbenigedd

Fran Yuen-Lee- Adran Ddeintyddol i Ôl-addedigion, AaGIC, Tŷ Glas, Nantgarw

Ble mae cael rhagor o wybodaeth?

  • Mae'r ymgynghorwyr a'r arbenigwyr deintyddiaeth baediatrig yn eich ysgol ddeintyddol a'ch ysbyty lleol yn bwynt cyswllt cyntaf da.
  • Gellir cysylltu â’r ddeoniaeth ôl-radd berthnasol i gael gwybodaeth am y broses ymgeisio leol
  • Mae’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol hefyd yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am hyfforddiant arbenigol a’r rhestrau arbenigol:

Ceir hefyd amrywiol gymdeithasau sydd â gwefannau lle gallwch gael rhagor o wybodaeth, yn cynnwys: