Neidio i'r prif gynnwy

WHTM 01-05

Audit structure

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru – Mae’r Gwasanaeth Cyfleusterau wedi cyhoeddi Memorandwm Technegol Iechyd Cymru (WHTM) 01-05 sy’n disodli Memorandwm Technegol Iechyd (HTM) 01-05.

Memorandwm Technegol Iechyd 01-05: Dadheintio mewn practisau deintyddol gofal sylfaenol a gwasanaethau deintyddol cymunedol.

Bwriad Memorandwm Technegol Iechyd Cymru (WHTM 01-05) yw codi ansawdd gwaith dadheintio mewn gwasanaethau deintyddol gofal sylfaenol. Mae WHTM 01-05 yn amlinellu’r systemau a’r prosesau allweddol sydd ar waith ar gyfer sicrhau ansawdd a diogelwch mewn gwasanaethau deintyddol cyffredinol (GDS) yng Nghymru. Yng Nghymru, mae gofynion hanfodol ac arfer gorau wedi’u disodli gan broses o welliant parhaus sy’n adlewyrchu ein hymrwymiad i wella safonau mewn practisau deintyddol.

Mae WHTM 01-05 yn cynnwys gwybodaeth am archwiliad o gydymffurfiaeth â dadheintio. Mae adnodd archwilio WHTM 01-05 wedi'i ddatblygu gan ddeintyddion yng Nghymru ac fe'i cefnogir gan yr adran ddeintyddol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Gweinyddir yr archwiliad drwy'r broses Adolygiad Cymheiriaid Archwilio Clinigol ac mae ar gael i bob tîm deintyddol gwasanaethau deintyddol cyffredinol (GDS) a Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol (CDS) yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth neu i holi ynghylch cofrestru ar gyfer yr archwiliad, anfonwch e-bost at yr adran qi ddeintyddol dentalqi