Neidio i'r prif gynnwy

Presgripsiynau gwrthficrobaidd

Hand holding medicines

Mae cyrff proffesiynol yn cytuno bod angen i bob un sy’n rhoi presgripsiynau wella presgripsiynau gwrthficrobaidd. Mae’n hanfodol bod y defnydd o gyffuriau o’r fath yn seiliedig ar dystiolaeth, a bod yn rhaid i bob presgripsiwn fod ar gyfer y cyffur mwyaf priodol, ar y dos cywir am y cyfnod cywir.

Derbynnir bellach mai defnyddio cyffuriau gwrthficrobaidd yn amhriodol ac yn ddiangen yn y gorffennol sy’n gyfrifol am ddatblygiad presennol rhywogaethau sy’n gwrthsefyll cyffuriau micro-organebau, megis MRSA, mewn unigolion ac mewn poblogaethau. Yn fwy diweddar ac yn bwysicach na hynny, dangoswyd bod gwell arferion wrth roi presgripsiwn gan ymarferwyr unigol yn gallu arwain at leihau ymwrthedd gwrthficrobaidd yn y boblogaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar wefan bda.org

Mae awdit presgripsiynau gwrthficrobaidd ar gyfer ymarferwyr deintyddol cyffredinol wedi cael ei ddatblygu gan AaGIC, Tîm Deintyddol Iechyd y Cyhoedd a 1000 o Fywydau a Mwy. Mae wedi cael ei brofi gan ymarferwyr deintyddol cyffredinol yng Nghymru.

Nod yr hyfforddiant hwn yw:

  1. Cefnogi’r defnydd clinigol mwyaf effeithiol o gyffuriau gwrthficrobaidd
  2. Lleihau nifer y presgripsiynau diangen.

Mae awditiau wedi’u cwblhau yn gymwys ar gyfer tair awr o ddatblygiad proffesiynol parhaus (DPP) y gellir ei ddilysu a chyllid cysylltiedig (£195.21) ar gyfer deintyddion sydd â Rhif Perfformwyr GIG. Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer yr awdit drwy lenwi ffurflen AMP1 a chyflwyno eich data’n electronig.

Deunydd ategol a darllen pellach:

 

Ganllawiau rhagnodi gwrthficrobaidd


I gael rhagor o wybodaeth, neu i holi ynglŷn â chofrestru ar gyfer yr awdit, cysylltwch â HEIW.dentalQI@wales.nhs.uk