Mae’r dudalen we hon yn ffordd syml i dimau deintyddol rannu enghreifftiau o wersi a ddysgwyd, gwelliannau a wnaed ganddynt neu arferion da.
Gall pob tîm ddysgu o ystyried “pethau sydd wedi digwydd” mewn llefydd eraill. Gallai’r rhain ddod o sawl ffynhonnell, gan gynnwys awdit, adolygu gan gymheiriaid, adborth gan gleifion, digwyddiadau diogelwch cleifion neu ddamweiniau a fu bron â digwydd. Bydd yr adroddiadau hyn yn anonymised ac yn cael eu rhoi ar y dudalen we hon er mwyn gallu rhannu gwersi â thimau deintyddol ledled Cymru.
Os hoffech chi rannu eich profiad, llenwch y ffurflen isod a’i dychwelyd drwy e-bost at HEIW dental QI.
Os bydd angen, efallai y gofynnir i chi egluro rhai agweddau ar y ffurflen cyn iddi gael ei rhoi ar y wefan hon.