Mae adran ddeintyddol i ôl-raddedigion AaGIC yn cynnal nifer o gyrsiau ôl-gymhwyso ar gyfer nyrsys deintyddol cofrestredig.
Mae’r cyrsiau hyn yn rhedeg dros sawl mis gyda darparwr achrededig. Mae pob cwrs yn gofyn am gwblhau gwaith cwrs ac mae arholiad ar ddiwedd rhai ohonynt. I gael rhagor o fanylion a ffurflen gais, llwythwch y dolenni isod i lawr neu cysylltwch â HEIW.DentalNurseTraining@Wales.nhs.uk.
Rydym wedi datblygu cwrs AaGIC mewn sgiliau Addysg Iechyd y Geg ar gyfer y rhai sydd eisioes wedi cofrestru, sy'n cael ei redeg fel peilot ar hyn o bryd. Gobeithiwn ei gynnal eto yn 2023 fel cwrs sylweddol. Cadwch olwg ar y tudalennau’r gwefan ac ar ein system archebu Max-Course i gael gwybodaeth am gyrsiau yn y dyfodol.