Neidio i'r prif gynnwy

Gweithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth

Dental implant

Rydym yn parhau i ddarparu cyrsiau a digwyddiadau ar gyfer y tîm deintyddol cyfan. Bydd rhai cyrsiau yn aros ar-lein a bydd eraill yn dychwelyd i fod wyneb yn wyneb neu drwy gyfuno dulliau  dysgu. Mae parhau i ddarparu ein rhaglen Therapi Ymddygiad Gwybyddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi ein galluogi i archwilio gwahanol lwyfannau a dulliau ar gyfer rhyngweithio â thimau deintyddol.

ARBEDWCH Y DYDDIAD – Bydd Cynhadledd Flynyddol Tîm Deintyddol AaGIC yn cael ei chynnal ar Ddydd Gwener y 20fed o Hydref 2023, yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd.

Thema’r dydd fydd: Arweinyddiaeth, Hydwythdedd a Chymhelliad ar gyfer y tîm deintyddol.

Mae’r cwrs yn rhad ac am ddim – cadwch lygad ar Max-Course i gofrestru.

Mae’r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am y gwahanol raglenni a gynigir i ddiwallu anghenion hyfforddi pob gweithiwr proffesiynol ym maes gofal deintyddol yng Nghymru.

Os oes gennych ddiddordeb, gallwch ddod o hyd i gwrs ar Maxcourse

Ydych chi'n chwilio am yrfa werth chweil, ddiddorol mewn gofal iechyd?

Ydych chi wedi ystyried Nyrsio Deintyddol?

Swyddogaeth nyrs ddeintyddol yw gweithio ochr yn ochr â deintyddion, therapyddion a hylenyddion a’u cynorthwyo i ofalu am gleifion.  Mae'n swydd amrywiol a gall gynnwys popeth o gefnogi gydag archwiliadau arferol i driniaethau arbenigol uwch.

Agwedd bwysig iawn o'r rôl yw gwneud i'r claf deimlo'n hamddenol ac yn gyfforddus yn ystod apwyntiadau.  Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys paratoi deunyddiau ar gyfer triniaethau, tynnu poer o geg y claf yn ystod triniaeth, cadw cofnodion ar gyfer y deintydd, sterileiddio offer, rheoli stoc a chynnal y safon uchaf o draws-heintio yn y ddeintyddfa.

Mae rhai nyrsys deintyddol yn cyflawni dyletswyddau estynedig ar ôl cwblhau eu cwrs nyrsio deintyddol sylfaenol i gymryd cyfrifoldeb am dasgau uwch fel cymryd pelydrau-x, cynorthwyo gyda thawelyddion, cyflawni addysg hylendid y geg, tynnu argraffiadau neu ffotograffau neu ddefnyddio fflworid amserol.”

Os ydych yn chwilio am yrfa werth chweil gydag ystod eang o gyfleoedd datblygu pellach ar ôl cymhwyso, mae AaGIC yn comisiynu Cwrs Diploma Nyrsio Deintyddol NEBDN a fydd yn cychwyn ym mis Mehefin 2023 gydag arholiadau ysgrifenedig yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd 2024.  Byddwch yn gweithio yn y swydd mewn practis deintyddol fel nyrs ddeintyddol dan hyfforddiant wrth gwblhau astudiaethau un diwrnod yr wythnos gydag AaGIC.  Am unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â HEIW.DentalNurseTraining@wales.nhs.uk neu ewch i Careersville.

Tystysgrif mewn Addysg Iechyd y Geg ar gyfer Nyrsys Deintyddol Cofrestredig Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol

Mae gan Addysgwr Iechyd y Geg rôl bwysig a gwerthfawr o fewn y tîm deintyddol i hybu a chynnal iechyd y geg gorau posibl, i helpu cleifion i reoli clefyd y geg ac i weithio gyda chynlluniau gofal unigol dan gyfarwyddyd deintydd.

Mae AaGIC wedi ymrwymo i gefnogi nyrsys deintyddol i ddatblygu eu llwybr gyrfa. Bydd y Dystysgrif mewn Addysg Iechyd y Geg yn darparu Nyrs Ddeintyddol, sy'n dymuno datblygu'n broffesiynol, gyda chymhwyster i ddod yn Addysgwr Iechyd y Geg. Byddant yn ennill gwybodaeth fanwl am glefydau'r geg, dulliau modern o atal a thrin clefyd y geg ac o ganlyniad yn eu galluogi i addasu eu sgiliau i anghenion penodol y claf.

Bydd cwblhau'r rhaglen hon yn llwyddiannus yn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a'r sgiliau priodol i wneud cyfraniad sylweddol at gynnal a gwella iechyd y geg ymhlith cleifion, fel yr amlinellir yn 'Cymru Iachach'

Mae’r cwrs nesaf wedi’ i gynllunio ar hyn o bryd i’w gyflwyno yn hwyrach yn 2023/dechrau 2024 – cysylltwch â HEIW.DentalNurseTraining@Wales.nhs.uk i gofrestru eich diddordeb.