Yn dilyn ymlaen o COVID-19, mae Adran Ddeintyddol AaGIC wedi cyflwyno dull cyfunol o draddodi hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol y tîm deintyddol. Mae'r adran wedi cydweithio ag adran Fferylliaeth AaGIC i gynnig modiwl hyfforddi BLS ar-lein i weithwyr deintyddol proffesiynol.
Rydym yn falch i gyhoeddi, o 1 Ebrill 2023, y bydd gan bractisau deintyddol cyffredinol sydd ac chontract GIG yr hawl i hyfforddiant meddygol brys mewn practis am ddim a drefnir gyda AaGIC. Bydd practisau heb gontract GIG yn parhau i orfod talu ffi.
Yn dilyn cwblhau'r modiwl ar-lein, gall Timau Deintyddol mewn Practisau Deintyddol Cyffredinol ategu'r hyfforddiant hwn gyda sesiwn ymarferol yn y practis, a gynhelir gan ein Darparwyr Hyfforddiant sydd wedi’u comisiynu.
Mae cwblhau'r ddau gwrs yn bodloni meini prawf DPP uwch y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ac yn cynrychioli 2 awr o DPP profadwy.
I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau ynghylch sut i archebu'r hyfforddiant hwn, lawrlwythwch a darllenwch y Cwestiynau Cyffredin a'r Siart Llif.
Mae Darparwyr Hyfforddiant yn cael eu pennu gan Fyrddau Iechyd |
|
---|---|
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Lubas Medical Limited 02921 304101 |
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Adran Ddadebru, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg 01685 728204 |
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Training for Life Limited 07933 717729 |
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Adran Ddadebru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Cyswllt yn y Gogledd Ddwyrain: Clair Partington, Cyswllt Canol Gogledd Cymru: Tim Gardner Cyswllt y Gogledd Orllewin: Angela Davies |
Mae gwybodaeth ategol a'r' siartiau llif argyfwng meddygol, y gallwch eu llwytho i lawr ar gyfer eich sesiwn ymarfer, ar gael isod hefyd.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Jan Prosser-Davies.