Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau dyletswyddau estynedig ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol (DCP) cymwys, cofrestredig.
Mae'r rhain yn cynnig cyfle i ddatblygu eich cymwysterau, gwybodaeth a sgiliau clinigol ymhellach. Bydd hefyd yn agor cyfleoedd gyrfa newydd drwy wella sgiliau clinigol presennol yn unol â chwmpas canllawiau ymarfer y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC).
Digwyddiadau dyletswyddau estynedig sydd ar gael yw:
Mesur a Chofnodi Mynegeion Plac a Gwaedu
I fynychu'r cyrsiau hyn, bydd angen i chi gael indemniad priodol yn ei le. Bydd angen i chi hefyd gael goruchwyliwr clinigol cofrestredig y GDC. Byddant yn goruchwylio eich hyfforddiant ac yn darparu gwerthusiad ac adborth fel rhan o'r portffolio digidol o gymhwysedd.
Anfonwch e-bost at jacqueline.glassar@wales.nhs.uk am ragor o wybodaeth neu martine.cuddihy@wales.nhs.uk am wybodaeth yn ymwneud â MPWiP.