Mae gan Bractisau Deintyddol Ymarfer Cyffredinol gyda chontract GIG nawr yr hawl am hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol ac argyfwng meddygol sydd wedi ei drefnu gan AaGIC.
Maer Adran Ddeintyddol wedi cyflwyno dull cymysg ar gyfer hyfforddiant cynnal bywyd sylfaenol ac argyfwng meddygol deintyddol. Ar â´l cwblhau modiwl dysgu ar-lein (DPP 1 awr), gall Timau Deintyddol o fewn Practisau Deintyddol Cyffredinol ategu'r hyfforddiant hwn â sesiwn ymarferol yn eu practis (DPP 1 awr), a gynhelir gan ein Darparwyr Hyfforddiant a gomisiynwyd gennym.
Mae cwblhau'r ddau gwrs yn bodloni meini prawf DPP uwch y GDC ac yn cynrychioli 2 awr o DPP gwiriadwy.
I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar sut i archebu'r hyfforddiant hwn, lawrlwythwch a darllenwch y Cwestiynau Cyffredin a'r Siart Llif.
Mae Darparwyr Hyfforddiant yn cael eu pennu gan Fyrddau Iechyd |
|
---|---|
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Lubas Medical Limited 02921 304101 |
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Adran Ddadebru, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg 01685 728204 |
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Training for Life Limited 07933 717729 |
Deintyddfeydd sydd wedi'u lleoli yn
|
Adran Ddadebru, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
Cyswllt yn y Gogledd Ddwyrain: Clair Partington, Cyswllt Canol Gogledd Cymru: Hannah Taylor & Leeanne Oliver Cyswllt y Gogledd Orllewin: Angela Davies |
Mae gwybodaeth ategol a'r' siartiau llif argyfwng meddygol, y gallwch eu llwytho i lawr ar gyfer eich sesiwn ymarfer, ar gael isod hefyd.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Jan Prosser-Davies.