Neidio i'r prif gynnwy

Gwneud i waith ataliol weithio'n ymarferol (MPWiP)

Dental tools in a blue background

Datblygu arweinyddiaeth Ddeintyddol: Trosolwg - Gwneud i waith ataliol weithio'n ymarferol (MPWiP)

Mae Darparu Gwell Iechyd y Geg (DBOH) yn darparu'r canllawiau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch ymyriadau ataliol y dylai timau deintyddol fod yn eu mabwysiadu i wella iechyd y geg eu cleifion. Mae Rhaglen Diwygio'r Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol yn adeiladu ar athroniaeth Gofal Iechyd Darbodus.  Mae'r ffocws ar drawsnewid, arloesi a hyrwyddo ffocws ataliol wrth ddarparu gwasanaethau dan arweiniad yr angen.

Mae defnydd mwy helaeth o gymysgedd sgiliau o ran yr agenda atal a gosod farnais fflworid yn golygu y gellir defnyddio amser, a dreuliwyd yn flaenorol gan ddeintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol eraill ar y math hwn o ymyriad, i weld a gofalu am gleifion ychwanegol – gan gynyddu mynediad i bawb.

Nod y cwrs “Hyfforddi'r Hyfforddwr” undydd yw arfogi deintyddion, hylenyddion a therapyddion i draddodi’r cwrs MPWiP i nyrsys deintyddol (ND) yn eu gweithle gan drosglwyddo sgiliau ychwanegol i nyrsys deintyddol o ran darparu cyngor ataliol priodol a gosod farnais fflworid arwynebol. Darperir y rhaglenni hyn drwy Microsoft Teams (MST) ac wyneb yn wyneb o ganolfannau ôl-raddedig ledled Cymru.

Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at weithwyr deintyddol proffesiynol sy'n dymuno ymestyn eu rôl i arweinyddiaeth ddeintyddol drwy ddatblygu hyfforddiant estynedig nyrsys deintyddol. Cyflwynir y rhaglen gan Addysgwyr o Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Mae'n wahanol iawn i gyrsiau eraill gan ei fod yn cydnabod pwysigrwydd darparu cyngor ataliol priodol yn ogystal â gosod farnais fflworid. Mae'n datblygu cymhwysedd yr hyfforddwr a'i ddealltwriaeth o bwysigrwydd gofal o ansawdd sy'n seiliedig ar werth. Bydd cwblhau'r hyfforddiant yn llwyddiannus yn gwarantu trwydded i hyfforddi nyrsys deintyddol am gyfnod o flwyddyn.

Cam 1: Cwrs undydd ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ wedi'i gwblhau - trwydded 12 mis wedi'i dyroddi os yn llwyddiannus. Er mwyn mynychu'r cwrs, rhaid i'r hyfforddwr nodi ac enwi nyrs deintyddol addas ar gyfer yr hyfforddiant yn ystod y cam ymgeisio. 

Cam 2: Nyrs(ys) deintyddol a hyfforddwyd mewn lleoliad yn y gweithle wedi dechrau o fewn tri mis yn dilyn cwblhau'r cwrs hyfforddi

Cam 3: Nyrs deintyddol yn cyflwyno portffolio wedi'i gwblhau o fewn 12 wythnos i ddyddiad dechrau'r hyfforddiant

Cam 4: Caiff y portffolio a gwblhawyd ei asesu a'i ddychwelyd i'r nyrs ddeintyddol o fewn 4 wythnos i'r cyflwyniad ddod i law

I wneud cais am le ar y cwrs, cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen gais isod.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Martine Cuddihy.

Gweler  Y Ty Dysgu ar gyfer dyddiadau Hyfforddi'r Hyfforddwr sydd i ddod.