Neidio i'r prif gynnwy

Y rhestr o berfformwyr - eithriadau

Dental studio

O 1 Ebrill 2006 ymlaen, rhaid i ddeintyddion gael rhif Hyfforddiant Galwedigaethol cyn y gellir cynnwys eu henwau ar y Rhestr o Berfformwyr Deintyddol, sy’n cael ei chadw gan y Ganolfan Wasanaethau Busnes yn Abertawe.

Dylid gwneud cais am Rif Perfformiwr ar ffurflen DPL1 sydd ar gael o’r Ganolfan Wasanaethau Busnes yn Abertawe (Ffôn: 01792 607438).

Er mwyn cael rhif VT, byddai angen i Ddeintydd fod wedi cwblhau cyfnod o hyfforddiant galwedigaethol yn y DU yn llwyddiannus ers mis Hydref 1993 a chyflwyno tystysgrif cwblhau (rhan A). Fel arall, byddai angen iddo ddangos tystiolaeth o hyfforddiant a phrofiad ‘cyfwerth’ [gweler yr adran ar PLVE] neu byddai angen ystyried ei fod wedi ei ‘eithrio’ o’r gofyniad hwn (Rhan B).

Os ydych yn cyflwyno’ch cais dan Ran A neu B, bydd yr Adran Ddeintyddol i Ôl-raddedigion yn rhoi rhif Hyfforddiant Galwedigaethol ichi neu’n anfon ymateb atoch o fewn 14 diwrnod gwaith. Gweler Llwybrau Rhif VT yn yr Adran Adnoddau Cysylltiedig i’w Llwytho i Lawr sy’n dangos y dewisiadau ar gyfer gwneud cais am Rif VT.