Neidio i'r prif gynnwy

Cristina Diaz-Navarro

Cristina Diaz-Navarro

Mae’r Athro Cristina Diaz-Navarro yn Anesthetydd Ymgynghorol sydd â diddordeb mewn niwro-anaesthesia a Phennaeth Academaidd Adran Gofal Amlawdriniaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae hi’n Ddeon Cyswllt ar gyfer Efelychu a Sgiliau Clinigol yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), ac yn Athro Anrhydeddus yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd ac yn Athro Cyswllt i’r Ysgol Meddygaeth a Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Barcelona. 

Mae hi'n Aelod o Bwyllgor Gweithredol y Gymdeithas Efelychu mewn Ymarfer Gofal Iechyd (ASPiH) ac yn Gadeirydd Pwyllgor Gwyddonol Cymdeithas Efelychu Feddygol Ewrop (SESAM).

Mae hi wedi bod yn ymwneud ag addysg ar sail efelychiad ac adrodd yn ôl (debriefing) ers 2006. Mae ei gwaith academaidd wedi canolbwyntio ar hyfforddiant ffactorau dynol a datblygu cyfadran efelychu ers 2011. Hi hefyd yw'r awdur arweiniol yn y gwaith o greu'r ymagwedd TALK at ôl-drafodaeth glinigol (www.talkdebrief.org) ac mae'n cadeirio Bwrdd Ymddiriedolwyr Sefydliad TALK.

Mae hi'n mwynhau datblygu prosiectau efelychiad arloesol sy'n annog persbectifau newydd ar gyfer myfyrio ar elfennau bob dydd o ofal iechyd.