Neidio i'r prif gynnwy

Clare Hawker

Clare Hawker

Mae Clare wedi ymddiddori ers amser mewn addysg sgiliau clinigol ac addysg seiliedig ar efelychiad i nyrsys.

Mae hi wedi arwain ar addysg sgiliau clinigol ac Addysg Seiliedig ar Efelychiad (SBE) yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd ers nifer o flynyddoedd yn ei rôl flaenorol fel Arweinydd Academaidd ar gyfer Efelychiad a’i rôl bresennol fel Uwch Ddarlithydd Nyrsio i Oedolion/Cyfarwyddwr Technoleg ac Efelychiad. Mae Clare wedi arwain ymateb yr Ysgol fel rhan o gam ymgynghori ar safonau efelychiad y Gymdeithas Ymarfer Efelychiadol mewn Gofal Iechyd (ASPiH) yn 2016.

Mae Clare wedi arwain ar ddatblygu, gweithredu a gwerthuso adnodd efelychiad rhyngwladol arloesol i baratoi myfyrwyr nyrsio israddedig yn eu blwyddyn gyntaf ar gyfer lleoliadau yn y gymuned fel rhan o brosiect tair blynedd Addysgeg Efelychiad Arloesol ar gyfer Datblygiad Academaidd (ISPAD) sy’n cael ei ariannu gan Erasmus. Roedd y prosiect ISPAD yn cynnwys cydweithio ag academyddion o ddwy brifysgol ryngwladol (Prifysgol Turku yn y Ffindir a Phrifysgol Molise yn yr Eidal). I gydnabod ei harbenigedd mewn efelychiad a’i chyfraniad gwerthfawr at y prosiect ISPAD, traddododd Clare y brif ddarlith ar ‘efelychiad mewn addysg gofal iechyd’ yng  nghynhadledd efelychiad ISPAD a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Malta. Roedd prosiect ISPAD yn sail i bennod mewn llyfr ‘Innovative approaches to nurse teaching and learning’ lle trafodir ymagweddau arloesol tuag at efelychiad.

Mae Clare wedi cyflwyno mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol ar addysg sgiliau clinigol ac Addysg Seiliedig ar Efelychiad. Roedd astudiaeth PhD Clare yn edrych ar addysg a hyfforddiant myfyrwyr nyrsio israddedig mewn techneg aseptig, sgil nyrsio craidd, gyda golwg ar wella dealltwriaeth a gwella addysg yn y maes hwn. Mae gan Clare ddiddordeb mawr mewn datblygu rhaglen ymchwil seiliedig ar efelychiad, gyda sylw penodol i ymchwilio i’r amodau optimwm a hyd dadfriffio mewn efelychiad.

Gweledigaeth Clare ar gyfer efelychiad yng Nghymru yw gweld y defnydd arloesol o efelychiad yn cael ei gydnabod a’i ddathlu a dod â’r gymuned Sim rhyngbroffesiynol at ei gilydd. Yn ei rôl fel Deon Cyswllt ar gyfer Sgiliau Clinigol ac Efelychiad mi hoffai Clare hyrwyddo efelychiad rhyngbroffesiynol, cyfrannu at y sail dystiolaeth a gwella datblygiad y gyfadran.