Neidio i'r prif gynnwy

Bridie Jones

Bridie Jones

Mae Bridie yn nyrs gofrestredig gyda diddordeb mewn gofal mewn argyfwng ac mae ar hyn o bryd yn gweithio mewn addysg uwch.

Mae hi’n arbennig o frwd dros efelychiad fel dull o addysgu, dysgu ac asesu ac i roi ymdeimlad o realaeth i ddysgwyr. Mae wedi bod yn ymwneud ag efelychiad ers 2005 ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn gwella sgiliau a gwybodaeth dysgwyr drwy amrywiaeth o weithgareddau efelychu gwahanol gydag efelychiad rhyngbroffesiynol yn nodwedd bwysig.

Mae Bridie wedi arwain ar ddatblygu, gweithredu a gwerthuso nifer o weithgareddau efelychu ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’r rhain wedi cynnwys gweithgareddau efelychu yn y fan a’r lle i helpu dysgwyr ôl-gofrestru i adnabod claf sy’n dirywio, anafiadau torfol ac efelychiad diwedd oes ar gyfer dysgwyr cyn-gofrestru a gwella sgiliau asesu ac ymyrryd hyfforddeion gofal brys. Mae wedi cyflwyno mewn sawl cynhadledd ar efelychiad gyda phwyslais arbennig ar ddysgu rhyngbroffesiynol drwy’r cyfrwng hwn.

Mae Bridie wrth ei bodd ac yn gyffrous o fod yn ymgymryd ag un o rolau Deon Cyswllt ar gyfer Efelychiad ag AaGIC ac mae’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r gymuned Efelychiad yng Nghymru, i gefnogi a hyrwyddo arferion gorau.