Neidio i'r prif gynnwy

Cyllid cyfwerth ar gyfer gwyddonwyr gofal iechyd

Woman in mask and test tube

Rhaglen Hyfforddiant Gwyddonol (STP) 

Mae STP yn rhaglen o hyfforddiant mynediad i raddedigion sy'n arwain at rolau gwyddonwyr uwch a chofrestriad gyda'r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal HCPC. Mae hyfforddeion STP yn cael eu cyflogi gan gyfundrefn GIG am gyfnod eu hyfforddiant ac yn derbyn cyflog.

Does dim modd cyflwyno cais ar gyfer 2023 bellach.

Mae ymgyrch recriwtio flynyddol a arweinir gan AaGIC mewn cydweithrediad â Sefydliadau GIG Cymru, sydd wedi gofyn am hyfforddeion drwy gynllun gweithlu eu sefydliad. 

Y broses Recriwtio:  

  • Ymgeiswyr yn gwneud cais trwy NHS Jobs.
  • Rhaid bod gan ymgeiswyr tramor y fisas perthnasol yn eu lle i fod mewn sefyllfa i weithio yn y DU.
  • Fel arfer gosodir hysbysebion o ddiwedd mis Chwefror i ddechrau mis Mawrth.
  • Gwahoddir ymgeiswyr llwyddiannus i gyfweliad wyneb yn wyneb.
  • Cynigir cytundeb penodol o hyfforddiant tair blynedd gyda'r Bwrdd Iechyd neu'r Ymddiriedolaeth berthnasol i'r rhai sy'n llwyddiannus yn y cyfweliad.
  • Rhaid i bob hyfforddai STP gofrestru gyda'r brifysgol berthnasol a’r Ysgol Genedlaethol Gwyddorau Gofal Iechyd

Mae modd dod o hyd i ganllawiau cyllido yma.

 

Hyfforddiant Gwyddonol Arbenigol Uwch  

Mae HSST yn rhaglen hyfforddiant ddoethuriaethol bum mlynedd yn y gweithle, sy'n rhoi'r cyfle i wyddonwyr clinigol hyfforddi a dod yn gymwys i wneud cais am swyddi gwyddonwyr clinigol ymgynghorol.

Mae modd dod o hyd i ganllawiau cyllido yma.

 

Cyllid cyfwerth ar gyfer gwyddonwyr gofal iechyd

Mae ceisiadau am gyllid 2023 ar agor ar hyn o bryd

Mae cofrestru proffesiynol yn fuddiol i gleifion a'r cyhoedd, ond hefyd i wasanaethau ac i'r gweithwyr proffesiynol cofrestredig eu hunain. O fewn meysydd gwyddor gofal iechyd proffesiynol mae cofrestrau gorfodol HCPC ar lefel raddedig (ar gyfer Gwyddonwyr Biofeddygol, Radiograffwyr ac Ymarferwyr Adran Llawdriniaeth) ac ar lefel ôl-raddedig (Gwyddonwyr Clinigol). Mae yna hefyd amrywiaeth o gofrestrau a reoleiddir y PSA a chymwysterau rheoledig eraill. Mae camau’n cael eu cymryd o fewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru i gynnwys y rhain fel meini prawf hanfodol ar gyfer rolau, lle maent ar gael.

Ar gyfer yr holl fathau hyn o gofrestru, mae llwybrau trwy brofiad hyblyg i gofrestru ar gael sy'n galluogi gwyddonwyr gofal iechyd i ddangos bod eu hyfforddiant, eu cymwysterau a'u profiad yn cyfateb i'r llwybr hyfforddi safonol. Mae’r rhain yn galluogi staff sy’n gweithio yng Nghymru i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn effeithiol, gan gydnabod y profiad sylweddol a enillir wrth weithio yng ngwasanaethau’r GIG.

Mae gan AaGIC ddyraniad cyllid sefydledig ar gyfer cefnogi staff y GIG o fewn Gwyddor Gofal Iechyd i gael mynediad at addysg a fydd yn eu galluogi i gofrestru/rheoleiddio drwy lwybr amgen neu gyfwerthedd. Gellir defnyddio'r cyllid hwn hefyd i ariannu'r broses ymgeisio am lwybr cyfwerth/amgen. Mae cyllid ar gael yn flynyddol ym mis Ebrill. Rhaid i sefydliadau sydd am fanteisio ar y cyllid hwn lenwi'r ffurflen gais hon ar gyfer pob ymgeisydd unigol sy'n ceisio cael gafael ar y cyllid hwn. Rhaid i'r ffurflen gais am gyllid gael ei llenwi gan reolwr y derbynnydd arfaethedig (naill ai'r rheolwr llinell neu'r rheolwr gwasanaeth fel y bo'n briodol).

Mae rhaid i sefydliadau sydd am fanteisio ar y cyllid hwn lenwiâr ffurflen gais hon erbyn 12 Mehefin. Rhoddir cyfarwyddiadau manwl pellach ar y ffurflen.
 

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am wyddoniaeth gofal iechyd drwy glicio yma.