Neidio i'r prif gynnwy

Gwyddor Gofal Iechyd

Abstraction of medical tools

Mae gwyddonwyr gofal iechyd yn chwarae rhan hanfodol yn y GIG, maen nhw'n helpu i atal, diagnosio a thrin salwch gan ddefnyddio eu gwybodaeth am wyddoniaeth a'u sgiliau technegol. Maent yn defnyddio eu harbenigedd i helpu i achub bywydau a gwella gofal cleifion mewn rôl gefnogol neu mewn cysylltiad uniongyrchol â chleifion.

Mae AaGIC yn comisiynu rhaglenni gwyddor gofal iechyd lluosog i ddiwallu anghenion gweithlu'r GIG a Gofal Cymdeithasol Cymru gan gynnwys - Awdioleg, Ffisioleg Glinigol, Gwyddoniaeth Resbiradol a Chwsg, Peirianneg Glinigol, Niwroffisioleg, Ffiseg Radiotherapi a Ffiseg Niwclear.

Bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn gymwys i gael eu ffioedd cwrs wedi'u hariannu'n llawn ynghyd â bwrsariaeth na ellir ei had-dalu sy'n profi cefnogaeth ariannol ledled y brifysgol.

Rhaglen Hyfforddiant Gwyddonwyr (STP) Canllawiau ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd.

Canllawiau Prifysgol i Dreuliau Lleoliadau Ymarfer ar gyfer myfyrwyr bwrsariaeth GIG Cymru.

Cwrs Lleoliad Hyd
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Ffisioleg Gardiaidd) Prifysgol Abertawe 3 blynedd llawn amser
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Awdioleg) Prifysgol Abertawe 3 blynedd llawn amser
Tystysgrif Addysg Uwch (TystAU) Ymarfer Awdioleg Prifysgol Abertawe 3 blynedd llawn amser
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Gwyddor Anadlu a Chysgu) Prifysgol Abertawe 3 blynedd llawn amser
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Meddygaeth Niwclear a Ffiseg Radiotherapi) Prifysgol Abertawe 3 blynedd llawn amser
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Niwroffisioleg) Prifysgol Abertawe 3 blynedd llawn amser
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd (Peirianneg Glinigol gan gynnwys Peirianneg Feddygol a Pheirianneg Adsefydlu) Prifysgol Abertawe 3 blynedd llawn amser
BSc (Anrh) Gwyddor Gofal Iechyd - Gwyddor Biofeddygol (Gwaed, Cellog, Geneteg, Haint) Prifysgol  Metropolitan Caerdydd  3 blynedd llawn amser
BSc (Anrh) Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Glyndŵr

Prifysgol Abertawe

3 blynedd llawn amser
BSc (Anrh) Radiotherapi Therapiwtig ac Oncoleg

Prifysgol Caerdydd

 

3 blynedd llawn amser
BSc (Anrh) Radiograffeg Ddiagnostig

Prifysgol Bangor

Prifysgol Caerdydd

3 blynedd

 

llawn amser
TystAU Ymarferydd Radiograffig Cynorthwyol (Diagnostig) Prifysgol Caerdydd 1 blynedd llawn amser